Sut I Wneud Ceis

SUT I WNEUD CAIS I FORTÉ 7 - 2021

Ydych chi'n gymwys? Gadewch i ni wybod!

Ydych chi'n 16-25 oed, ac yn creu cerddoriaeth gwreiddiol yng Nghymru? Yna gallwch wneud cais  a bod yn rhan o Brosiect Forté. Mae angen i ni fod yn siwr o hyn, felly peidiwch ag anghofio cynnwys ble rydych yn byw a'ch dyddiad geni yn y cais.

Mae angen linc arnom hefyd i gerddoriaeth gwreiddiol rydych chi wedi ei greu - gall fod yn unrhyw beth, o recordiad ffôn sylfaenol i drac wedi ei recordio mewn stiwdio. Byddwn ni ddim yn barnu eich cerddoriaeth ar ei ansawdd recordio, ond ar ei botensial a'ch sgil ysgrifennu caneuon.

Am beth rydyn ni'n chwilio am?

Beirniadir y ceisiadau yn y ffyrdd canlynol:

· Parodrwydd - Ydych chi'n barod i fod yn artist Forté, wrthi'n ysgrifennu caneuon a naill ai'n gigio neu wastad yn barod ar gyfer gig? Neu a ydych chi wedi mynd heibio'r angen am Forté, hynny yw, ydych chi eisoes wedi sefydlu eich hunan yn y sîn, gyda rheolwr, label, asiant archebu, ac ati? 

· Ymrwymiad - Pa mor ymrwymiedig ydych chi i gerddoriaeth a pha mor ymrwymiedig allech chi fod i Brosiect Forté? Gwnewch eich ymchwil ar Forté, deallwch beth rydym yn ei olygu (nid prosiect cyllido! ydyn ni!) Dywedwch wrthym sut y gallai hyn fod yn berthnasol i chi.

· Uchelgais - Rydyn ni'n edrych am dystiolaeth o ba mor bell rydych chi wedi dod, neu i ble rydych chi am fynd. Gall hyn fod yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym mewn cais ond hefyd trwy eich cyfryngau cymdeithasol, gan edrych ar weithgaredd / gigs diweddar, ac ati.

· Ansawdd - Rydym yn edrych ar ansawdd eich ysgrifennu caneuon a'ch gallu (NID y recordiad!) Pa mor dda ydych chi'n gerddorol ac fel ysgrifennwr caneuon? Oes gennych chi botensial mawr, neu a ydych chi’n barod yn gerddor gwych? Mae yna elfen ychwanegol yma hefyd - a ydych chi'n dod â rhywbeth newydd at y bwrdd, neu a yw e'n rhywbeth rydyn ni wedi'i glywed o'r blaen?

Beth sydd angen i mi ei gynnwys?

· Enw, cyswllt ac e-bost cyfredol

  •  Sicrhewch ei fod yn e-bost rydych yn edrych arno yn rheolaidd. Mae hyn er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad yn ystod y broses ymgeisio ac yn y dyfodol.

· Eich cyfeiriad cyfredol a'ch dyddiad geni

  •  Felly gallwn wirio cymhwysedd. Os oes gennych chi sawl aelod, cofiwch gynnwys pob dyddiad geni aelodau o’r band.

· Dolen (linc) i'ch recordiad ar-lein gorau

  •  Soundcloud / YouTube / Bandcamp sydd orau, ond gall fod yn ddolen Spotify - ceisiwch beidio â rhannu dolenni dropbox / drive gan fod angen i ni rannu'r rhain gyda'n panel beirniaidu

· Dolenni i'ch cyfryngau cymdeithasol

  •   Cofiwch gynnwys dolenni llawn, nid enwau defnyddwyr - bydd ‘Linktree’ yn gwneud yn iawn hefyd.

Bio ar gyfer eich act

  • Manylion am beth ydych chi wedi ei gyflawnu a'ch nodau - a sut rydych chi'n swnio!

Ateb i'n cwestiwn “Beth all Prosiect Forté ei wneud i chi?”

  • Rydyn ni'n edrych i gefnogi a gweithio gyda chrewyr cerddoriaeth sy'n gwybod beth rydyn ni'n ei wneud yn Forté ac sy'n gallu gweld eu hunain yn cael llawer o fudd allan o'r prosiect yn ei holl agweddau.

  • P'un ai ydych yn unigolyn sydd eisiau cyfle i gydweithredu, neu'n fand sydd angen ymarferion, neu eich bod yn gwybod bod angen gwthio'ch hun yn bersonol neu eisiau cyfle i ddysgu mwy am y diwydiant.

  •  Dyma'ch cyfle i egluro'r hyn y byddwch chi’n cael budd o Forté, ac i ni weld a yw Prosiect Forté yn iawn i chi.

· Ateb i'n cwestiwn “Pa ran o Forté sydd o ddiddordeb mawr i chi?”

  Dewiswch un o agweddau Forté yr hoffech chi ei wneud fwyaf:

  • Mentor o’r diwydiant ac hyfforddi 1-wrth-1

  •  Dosbarthiadau ac digwyddiadau meistroli 

  • Gweithdai creu cerddoriaeth 

  •  Cyfleoedd perfformio byw

  • Cymorth gyda ymarfer a recordio

  •  Datblygu Busnes, Marchnata a Chynulleidfa

  •  Datblygiad Personol a Chefnogaeth Iechyd Meddwl

Tudalen nesaf - Cyfleoedd cyfartal a manylion cysylltu

Rydym hefyd yn cynnwys ffurflen cyfleoedd cyfartal. Er na fydd ein panel beirniadu byth yn gweld hyn, rydym yn awyddus i ddod o hyd i artistiaid nad ydynt yn cael hi mor hawdd ac eraill i ennyn y goleuadau llachar. Yn unol â Chontract Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru a phrosiectau Cyfnewidfa Sefydliad PRS rydym wrthi'n chwilio am ac yn annog actiau sydd yn:

· Cynnwys aelodau sy'n uniaethu fel menywod neu rai nad ydynt yn ddeuaidd

· Cynnwys aelodau o gefndir lleiafrifol ethnig

· Cynnwys aelodau sy'n nodi eu bod yn anabl

· Cynwys aelodau sy'n nodi eu bod yn LGBTQIA +

· Cynwys aelodau sy'n siarad Cymraeg / neu actiau sy'n creu cerddoriaeth yn y Gymraeg

Gallwch hefyd gyflwyno'ch cais i ni ar ffurf sain neu fideo, danfonwch atom trwy wetransfer i info@forteproject.co.uk neu cysylltwch â ni i gael mwy o help.

A dyna ni! Pob lwc gyda'ch cais, ac os oes angen unrhyw gyngor arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar info@forteproject.co.uk neu drwy unrhyw un o'n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.